2016 Rhif 217 (Cy. 86)

amaethyddiaeth, cymru

Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1252) (Cy. 84) (“y Rheoliadau Taliad Sylfaenol”) a Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3223) (Cy. 328) (“y Rheoliadau Trawsgydymffurfio”). 

Mae rheoliad 2(2) yn gwneud mân ddiwygiad i reoliad 16(3)(a) o’r Rheoliadau Taliad Sylfaenol er mwyn ymgorffori stribedi coediog. Mae rheoliad 2(3) yn dirymu rheoliad 17 o’r un Rheoliadau.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio’r Rheoliadau Taliad Sylfaenol drwy fewnosod darpariaethau sy’n darparu y sefydlir Cronfa Genedlaethol gan Weinidogion Cymru ac yn nodi, yn ôl trefn blaenoriaeth, sut y defnyddir arian y gronfa honno. Mae rheoliad 2(4) hefyd yn mewnosod darpariaeth sy’n nodi cymhwysiad y gydran “wyrddu” o daliadau uniongyrchol, sy’n cysylltu taliadau ag arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd.

Mae rheoliad 2(5) yn dirymu Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau Taliad Uniongyrchol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6 o’r Rheoliadau Trawsgydymffurfio, a pharagraffau 4 a 5 o Atodlen 1 iddynt. Mae rheoliad 3(2) yn diwygio rheoliad 6 mewn cysylltiad â sut y caiff y gyfradd log sy’n gymwys ei chyfrifo. Mae rheoliad 3(3) a (4) yn gwneud diwygiadau i’r Atodlen er mwyn caniatáu i fuddiolwr adael gorchudd arwyneb garw ar ôl cynaeafu ar yr amod bod yr asesiad risg angenrheidiol wedi ei gynnal a bod Gweinidogion Cymru wedi eu hysbysu amdano.

Mae rheoliad 4 yn dirymu Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/131) (Cy. 64).

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan yr Adran Cyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.


2016 Rhif 217 (Cy. 86)

amaethyddiaeth, cymru

Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2016

Gwnaed                             23 Chwefror 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad

 Cenedlaethol Cymru           25 Chwefror 2016

Yn dod i rym                        18 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mawrth 2016.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 16(3)(a) ar ôl “perthi” mewnosoder “a stribedi coediog”.

(3) Mae rheoliad 17 wedi ei ddirymu.

(4) Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—

Cronfa genedlaethol

18.—(1) Bydd Gweinidogion Cymru yn sefydlu cronfa genedlaethol, yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.

(2) Bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r gronfa genedlaethol, yn ôl y drefn flaenoriaeth a ganlyn—

(a)   i ddyrannu hawliau i daliadau i ffermwyr ifanc ac i ffermwyr sy’n dechrau eu gweithgarwch amaethyddol, yn unol ag Erthygl 30(6) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(b)  i ddyrannu hawliau i daliadau i ffermwyr a rwystrwyd rhag cael hawliau i daliadau wedi eu dyrannu iddynt o dan y cynllun taliad sylfaenol o ganlyniad i force majeure neu amgylchiadau eithriadol, yn unol ag Erthygl 30(7)(c) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(c)   i ymdrin â’r anghenion blynyddol am daliadau i ffermwyr ifanc, yn unol ag Erthygl 30(7)(f) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol; a

(d)  i gynyddu’n llinol, ar sail barhaol, werth yr holl hawliau i daliadau o dan y cynllun taliad sylfaenol os yw’r gronfa genedlaethol yn fwy na 0.5% o’r terfyn cenedlaethol blynyddol ar gyfer y cynllun taliad sylfaenol, yn unol ag Erthygl 30(7)(e) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.

Taliad am arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd

19.—(1) Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi’r taliad am arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd fel canran o gyfanswm gwerth yr hawliau i daliadau y mae’r ffermwr wedi eu gweithredu yn unol ag Erthygl 33(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol ar gyfer pob blwyddyn berthnasol, yn unol â thrydydd is-baragraff Erthygl 43(9) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.

(2) Cyfrifir y ganran y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn unol â phedwerydd is-baragraff Erthygl 43(9) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.”

(5) Mae Rhan 2 o’r Atodlen wedi ei dirymu.

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014

3.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014([4]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 6, yn lle “y diwrnod hwnnw”, rhodder “ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis calendr”.

(3) Ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1 yn lle “torri” rhodder “gwrthdaro ag”.

(4) Yn lle paragraff 5(2) o Atodlen 1 rhodder—

“(2) Pan fo amodau ar safle penodol yn lleihau’r risg o erydiad pridd a phan fo buddiolwr yn gadael tir heb orchudd o gnydau, sofl, gweddillion neu lystyfiant arall ar ôl trin y tir, rhaid i fuddiolwr:

(a)   gadael gorchudd arwyneb garw; a

(b)  peidio â chaniatáu i bridd erydu i lawr llethr neu oddi ar y safle; ac

(c)   llunio asesiad risg pridd arwyneb garw a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru ar y diwrnod y caiff y tir ei drin gan adael arwyneb garw, neu cyn hynny.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “oddi ar y safle” (“off-site”) yw unrhyw fan sydd y tu hwnt i derfyn cae mewn daliad, gan gynnwys cae arall sy’n rhan o’r un daliad.”

Dirymu

4. Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Cymru) 2016([5]) wedi eu dirymu.

 

 

 

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2016

 



([1])           O.S.  2010/2690.

([2])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

([3])           O.S. 2015/1252 (Cy. 84).

([4])           O.S. 2014/3223 (Cy. 328).

([5])           O.S. 2016/131 (Cy. 64).